Tuesday, March 07, 2006

Dim gem!

Gem Bangor di ganslo heno oherwydd tywydd mawr! Siarad trwy nhin? Na, dwi'm yn meddwl.

Saturday, March 04, 2006

Bored.

Wel, mai di bwrw eira do, dim coleg ers tridie, lyfli! Gem Bangor di ganslo fory so ma'r weekend bach yn ddiflas wan. Cyfle euraidd i neud bach o waith falle? Hmm..

Monday, February 27, 2006

To all my fans...

Sori am fy absennoldeb eto. Di bod yn actually gneud gwaith coleg, gwarth. Bangor yn colli eto, quel surprise. Coleg amdani wan, ddim yn hapus ar fethu Neighbours ond dyna fo de.

Thursday, January 26, 2006

Wedi cael llond bol.

Fed-up braidd ar sgwennu traethodau 'wan de. Be di'r pwynt? Gorfodol, ond eto ddim yn cyfri at y marc terfynnol, ych.
Wedi mynd yn ol i wrando ar hen gerddoriaeth yn ddiweddar, Kratwerk, Anthrax, Doors a.y.y.b. Eclectic falla ond da iawn!

Sunday, January 01, 2006

Blwyddyn Newydd Dda!

Wel, sori am beidio sgwennu mewn dipyn. Fawr i'w ddeud!

Thursday, December 08, 2005

Hwliganiaeth yn yr UDA.

Oni'n sbio ar maes-e a mi ddois ar draws edefyn oedd yn cynnwys yr erthygl ma am hwliganiaeth yn yr UDA yn y Guardian.

"We're a bunch of filthy, dirty, nasty, drinking bums. In a sense we take pride in that. We don't want you here. We want you to be afraid to come."
Neshi ffeindio'r dyfyniad ma, am eiliad oni'n taeru mai am Rhyl yr oeddynt yn son.

Wednesday, December 07, 2005

1-0

Bristol Rovers yn curo Stockpot 1-0 neithiwr. Dwy fuddugoliaeth yn olynnol yn y gynghrhair wan. Arswyd y byd!!

Monday, December 05, 2005

Davenport wedi ymddiswyddo.

Fawr o sioc, amseru'r peth falle yn anffodus. Amser go ansicr o'n blaen rwan tybiaf. Diolch i Peter Davenport am ei gyfnod gyda ni, trist fod popeth wedi gorffen ar nodyn gwael rhywsut ond fela mae weithia.

Daily Post

Monday, November 21, 2005

Diwrnod diflas

Sal trwy'r dydd, adwaith reit gas i'r "antibiotics". Tim o dan 21 Bangor yn chwarae yn erbyn TNS heno, oer yng Nghroesoswallt heno swni'n feddwl!

Sunday, November 20, 2005

Hysbyseb.

Dwi'n hoffi'r hysbyseb ma, ma'n dod o Awstralia. Mwynhewch!

Carlton Draught